Robert JohnJONESHunodd yn dawel ar y 21ain o Dachwedd 2025 yng nghwmni ei deulu yn ei gartref Bryncroes, Tyn Lon, Caergybi yn 87 mlwydd oed.
Annwyl briod y ddiweddar Catherine, tad tyner Wyn Howell a'i briod Bethan, taid balch Lois a'r diweddar Elgan, brawd caredig Nancy, Wil, Doris Hugh a'r ddiweddar Betty a Hilda ac yn frawd yng nghyfraith hoffus. Mi fydd yn golled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Gilead Belan, Ty'n Lon, dydd Sadwrn, 13eg o Rhagfyr 2025 am 11.00 o'r gloch ac yna rhoddir i orffwys ym Mynwent y Capel.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Mynwent Capel Belan ac Ambiwlans Awyr drwy law
Griffith Roberts a'i Fab,
Preswylfa, Fali.
Ffôn: (01407) 740 940
Keep me informed of updates